SUT MAE'N GWEITHIO
Mae Bespoke Entries yn ei gwneud hi'n hawdd i chi greu eich digwyddiad, cymryd cofrestriadau, a chael eich talu. Mae hefyd yn sicrhau bod gan eich cwsmeriaid opsiwn hawdd ei ddefnyddio a diogel er mwyn cofrestru ar gyfer eich digwyddiad, dosbarth neu wasanaeth.
1
Creu eich digwyddiad
Siaradwch ag un o'n tîm a byddwn yn creu tudalen ar gyfer eich digwyddiad chi. Gallwch ychwanegu eich logo, gwybodaeth am eich digwyddiad, mapiau ac unrhyw wybodaeth arall y bydd arnoch ei hangen. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr holl fanylion hyn wrth law yn syth, byddwch yn cael manylion mewngofnodi fel y gallwch ddal ati i addasu eich tudalen wrth i'ch digwyddiad esblygu.
2
Cymryd Cofrestriadau
Byddwch yn cael URL hawdd ei ddarllen (e.e. www.bespokeentries.co.uk/yourevent) fel y gallwch rannu eich digwyddiad yn hawdd a hyd yn oed ddefnyddio'r dudalen hon fel eich gwefan swyddogol, gan arbed y costau drud o gynnal a dylunio gwefan. Bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi'r ffurflen gais hawdd ei defnyddio, cwbl addasadwy, ac mae'r rhestr o gofrestriadau ar gael i chi ei lawrlwytho 24/7!
3
Cael eich Talu
Cymerir pob taliad dros weinydd diogel sy'n cydymffurfio'n llawn â Diwydiant y Cardiau Talu (PCI). Gall y bobl sy'n cofrestru gyda chi fod yn dawel eu meddwl bod eu manylion banc yn ddiogel o'r dechrau i'r diwedd, sy'n cael ei brofi gan y clo clap. Mae'n llawer gwell gan gwsmeriaid gofrestru ar-lein ar gyfer digwyddiadau, gan eu gwneud yn llawer mwy tebygol o gofrestru ar gyfer eich digwyddiad chi. Yna, bydd yr holl ffioedd cofrestru'n cael eu trosglwyddo i chi bob mis.
AMDANOM NI
Crëwyd Bespoke Entries er mwyn cynnig i drefnwyr digwyddiadau system gofrestru ar-lein hynod broffesiynol sy'n llai costus na'r rhai sydd eisoes ar gael ar y farchnad. Mae Bespoke Entries yn dilyn strwythur prisio syml ac yn sicrhau ei fod yn parhau i fod y rhataf yn y farchnad.
Mae Bespoke Entries yn darparu profiad system gofrestru hynod addasadwy trwy ryngwyneb cwsmeriaid hawdd ei ddefnyddio, a hynny heb aberthu diogelwch, wrth i'r holl daliadau gael eu cymryd trwy wefan SSL ddiogel, sy'n sicrhau bod eich holl wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel.
PRISIO
4.5% and £0.50
Mae'r ffi archebu hon yn cynnwys yr holl ffioedd ar gyfer prosesu taliadau, unrhyw drethi, popeth. Rydym yn cadw pethau'n syml, nid ydym yn cuddio unrhyw ffioedd ychwanegol.
Gwasanaethau
Rheoli eich digwyddiad a'ch cofrestriadau eich hun, neu byddwn yn eu rheoli ar eich rhan yn rhad ac am ddim
Ffurflen Gofrestru Bersonol
Cymryd taliadau dros weinydd diogel
Negeseuon e-bost awtomataidd yn cael eu hanfon at eich cwsmeriaid
Lawrlwytho eich cofrestriadau unrhyw bryd
Gwefan un dudalen ar gyfer eich digwyddiad
Cynifer o wahanol ffioedd cofrestru ag y dymunwch
Gwasanaeth cwsmeriaid cyfeillgar
Cysylltu